Rheilffordd Ffestiniog
'Rheilffordd Fach wirioneddol Wych', Ffestiniog yw cwmni rheilffordd annibynnol hynaf y byd.

Rheilffordd Ffestiniog
Fe’i sefydlwyd gan Ddeddf Seneddol ym 1832, ac fe’i hadeiladwyd i wasanaethu diwydiant llechi Blaenau Ffestiniog. Gallwch weld hanes yn cael ei adrodd dros y blynyddoedd.
Ym Mai 2007, roedd Ffestiniog yn falch o ddathlu pen-blwydd sefydlu’r lein 175 o flynyddoedd yn ôl, ac yn 2014, ei phen-blwydd yn 60 oed ers agor cam cyntaf y lein reilffordd a adfywiwyd wedi’r Rhyfel. Gyda’r gwaith ailadeiladu ar Reilffordd Ucheldir Cymru cyn y rhyfel bellach wedi ei gwblhau, a gosod dau blatfform £1.25 miliwn yng Ngorsaf yr Harbwr ym Mhorthmadog (ynghyd ag adeilad signalu semaffor sylweddol), mae bellach yn bosibl cysylltu gyda threnau i Gaernarfon. Cyfle i brofi 40 milltir ddi-dor o stêm lein gul wefreiddiol. Gyda’r lein wedi ei hadeiladu’n wreiddiol i wasanaethu diwydiant llechi Blaenau Ffestiniog, grym disgyrchiant arferai weithredu’r lein. Cadwyd wagenni’n gyforiog o lechi’n drybowndian i lawr ochr y mynydd, dan reolaeth gan ddynion brêc. Roeddent yn neidio o wagen i wagen i dynhau neu lacio’r brêc tra chwythai eu cydweithwyr ar flaen y wagen eu cyrn i rybuddio eraill eu bod yn pasio. Cyflwynwyd locomotifau stêm yn ystod y 1860au a heddiw, mae rhai o’r injanau bychain hynny’n halio cerbydau o ymwelwyr drwy olygfeydd godidog Parc Cenedlaethol Eryri. Mae Blaenau Ffestiniog ar flaen y dyffryn yn parhau i gario creithiau ei orffennol diwydiannol gyda thipiau llechi o gwmpas. Mae un o’r chwareli hyn ar agor i’r cyhoedd ac mae’n ychwanegiad diddorol i’ch diwrnod allan. Mae’r orsaf yng nghanol y dref ar yr A470 ac fe’i rhennir gyda Lein Reilffordd Dyffryn Conwy sy’n arwain o dref wyliau lan y môr Llandudno, gan gysylltu gyda’r brif lein reilffordd yng Nghyffordd Llandudno. Hanner ffordd ar hyd y lein mae Gorsaf Tan y bwlch, a saif oddi ar y prif ddyffryn yng nghoedwigoedd derw Meirionydd. Mae llawer o lwybrau natur yn cychwyn o’r orsaf, lle da i dorri’ch siwrnai ac i archwilio. Mae’r caffi trwyddedig, sydd ar agor o’r Pasg i’r Hydref, yn gweini dewis o fyrbrydau poeth ac oer i dynnu dŵr i’ch dannedd. Mae gan y caffi drwydded i gynnal priodasau ac mae’n lleoliad anarferol ar gyfer eich diwrnod arbennig. Mae’r rhan fwyaf o’r trenau’n cychwyn a gorffen ym mhencadlys y rheilffordd yng ngorsaf Harbwr Porthmadog, ar yr A487 ar ben dwyreiniol y dref. Mae’r brif siop anrhegion yn gwerthu amrywiaeth helaeth o anrhegion a swfenîrs ac mae’n darparu’r siop ar-lein www.festshop.co.uk. Rhaid ymweld â chaffi a bar y Spooner's yn hen sied nwyddau’r stesion, a’i dewis helaeth o fwyd a diodydd. Mae Spooner's yn falch o ennill gwobr CAMRA am ‘Dafarn Leol y Flwyddyn’ dair gwaith yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf. Maen nhw’n cynnal digwyddiadau arbennig gydol y flwyddyn a rhaglen 'Gyrrwr Gwadd'. Mae ymweliad â Rheilffordd Ffestiniog yn cyfleu hanes dros y blynyddoedd a llawer mwy hefyd! |




Harbour Station
Porthmadog
Gwynedd
LL49 9NF
LL49 9NF
Dod o Hyd i Ni
Ar drên
Porthmadog: Mae Rheilffordd y Cambrian yn mynd o’r Amwythig yn Swydd Amwythig, i Borthmadog.
Blaenau Ffestiniog: Mae Lein Reilffordd Dyffryn Conwy’n mynd o Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog.
Ar fws
Porthmadog: Mae T2 Traws Cymru o Borthmadog yn darparu gwasanaeth uniongyrchol rhwng trefi prifysgol Bangor ac Aberystwyth, saith niwrnod yr wythnos ac yn aros yng Nghaernarfon a Phorthmadog.
Mae bysiau Arriva a Lloyd's Coaches hefyd yn darparu gwasanaeth bws.
Blaenau Ffestiniog: Mae bysiau Arriva, John’s Coaches, Llew Jones Coaches a Lloyd's Coaches hefyd yn darparu gwasanaeth bws.
Mewn Car
Cod post yn defnyddio offer llywio â lloeren - Porthmadog LL49 9NF
Cod post yn defnyddio offer llywio â lloeren Blaenau Ffestiniog LL41 3ES
Parcio
Porthmadog: Mae parcio ar gael yng ngorsaf Harbwr Porthmadog (LL49 9NF) £2.00 maes parcio drwy’r dydd. Os yw’n llawn, cewch eich cyfeirio at y Maes Parcio Gorlif, £2.00 drwy’r dydd.
Blaenau Ffestiniog: Nid oes cyfleusterau pario yn yr orsaf, ond ceir parcio cyhoeddus gerllaw.
Rhagor o drenau bach gwych
Stay
Discounts off stays with our Card
*available at selected accommodation

Tudor Lodge
A warm welcome awaits you at the Tudor Lodge, Porthmadog, family-run with cosy and comfortable rooms. Well known for their Scandinavian Style breakfast or a cooked breakfast option.

Wenallt Guest House
Situated at Penrhyndeudraeth, just a short walk from the Ffestiniog steam railway's Penrhyn Station. Listed as the 'Best B&B' by Steam Railway Magazine.

Isallt Guest House
A large detached Victorian house in the centre of Blaenau Ffestiniog, this three star VisitWales graded bed and breakfast, right next to the Ffestiniog railway.
Nearby

Borth y Gest
The closest beach to Porthmadog is at the sleepy, seaside village of Borth y Gest. A walk round the bay takes you to a clifftop path to small, beautiful sandy coves.

Portmeirion Village
Portmeirion, (reached from Minffordd station) is home to two hotels, a cluster of historic cottages, iconic architecture, restaurants, an Italian ice cream parlour, exotic gardens and sandy beaches.

Llechwedd Slate Caverns
Situated in Blaenau Ffestiniog, explore the heritage of the Victorian slate mine with a deep mine tour or adventure on slate mountain. Discover the story of a rock revolution.