Rheilffordd Llyn Padarn
Mae’r locomotifau stêm treftadaeth yn mynd â chi ar daith bum milltir ddwyffordd ar hyd glannau hyfryd Llyn Padarn yng nghanol Eryri.
Rheilffordd Llyn Padarn
Fe gymer y siwrnai pum milltir ddwyffordd ryw awr. Amserlennwyd pob gwasanaeth trên i halio locomotif stêm hynafol a achubwyd o chwareli llechi Dinorwig gerllaw ac a adferwyd gyda chariad. AMSERLENNI
Mae’r daith sy’n cychwyn yn Gilfach Ddu’n mynd â chi heibio i gastell Dolbadarn o’r 13eg Ganrif, yn croesi’r Bala, o bosibl afon leiaf Prydain, yn ymlwybro rhwng dau lyn Llanberis wrth i’r trên fynd heibio’r estyniad (agorwyd yn 2003) i bentref Llanberis. O Lanberis, mae’r trên yn mynd heb aros drwy Barc Gwledig Padarn, ac yn ymuno â llwybr y rheilffordd a adeiladwyd ym 1845 ar hyd glannau Llyn Padarn i Benllyn. Yma cewch olygfeydd gwych o’r Wyddfa mynydd uchaf Cymru a Lloegr. Hanner ffordd ar hyd y llyn mae trên yn aros ychydig yng Nghei Llydan, man picnic heddychlon hyfryd ar lan y llyn. Dewisodd Croeso Cymru’r llecyn hwn fel un o blith 10 uchaf o leoedd picnic gwych, sy’n cyfuno “hwyl picnic hen ffasiwn gyda rhamant taith ar drên ddoe”. Mae’r trên yn dychwelyd i Gilfach Ddu, lle cariwyd llechi o’r chwareli i’r rheilffordd llechi. Yma gallwch wylio’r gyrrwr yn llenwi’r tanciau gyda dŵr ac yn procio’r tân yn barod at y daith yn ôl. Gallwch ymweld â chaffi gorsaf Gilfach Ddu i gael bwyd a diod neu bori yn y siop anrhegion a swfenîrs. Mae ein injanau stêm Hunslet Elidir, Thomas Bach neu Dolbadarn o’r chwarel gynt a fu’n gweithio ar gychwyn eu gyrfa yn Chwareli Dinorwig gerllaw wedi’u hamserlennu i dynnu pob trên. Ceir mynediad gwastad i’r trenau yng ngorsafoedd Llanberis a Gilfach Ddu; mae gan bob trên gerbyd a addaswyd yn benodol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. |
Gilfach Ddu
Llanberis
Gwynedd
LL55 4TY
Dod o Hyd i Ni
Ar drên
Gorsaf agosaf Rheilffordd Genedlaethol (Prydain) yw Bangor.
Ar fws
Mae bysiau Sherpa Caernarfon/Bangor a’r Wyddfa’n aros y tu allan i orsaf Llanberis.
Mewn Car
Wedi’i leoli oddi ar yr A4086 yn Llanberis. Dilynwch arwyddion y trên stêm neu arwyddion Parc Gwledig Padarn. Mae Llanberis ond 15 munud o’r A55 (Cyffordd 11), 20 munud o Gaernarfon, a 45 munud o Borthmadog/Betws-y-coed ar hyd ffordd Pas Llanberis a’i golygfeydd trawiadol.
Parcio
Mae digonedd o le parcio ym maes parcio talu ac arddangos Ger y Llyn, Llanberis, sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Gwynedd. Mae’n gwasanaethu’r rheilffordd, yr amgueddfa lechi a nifer o atyniadau eraill ym Mharc Gwledig Padarn.
Rhagor o drenau bach gwych
Stay
The Royal Victoria Hotel
The Royal Victoria Hotel is uniquely located opposite Snowdon Mountain Railway with 30 acres of gardens and woodland including the historic castle of Dolbadarn.
Gwesty Bach Glyn Afon
Glyn Afon Guest house is in the heart of Llanberis close to the shops, cafes and restaurants. It is a 500 metre walk to the Snowdon Mountain Railway.
Padarn Hotel Bistro Bar Rooms
Situated in the beautiful village of Llanberis at the foot of Snowdon, 100m from Padarn Lake and a 5-min walk to the Snowdon Mountain Railway and 20-min to Llanberis Lake Railway.
Nearby
Amgueddfa Lechi Cymru
Gyda mynediad am ddim, mae Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yn cynnig rhaglen o arddangosiadau a sgyrsiau drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys.
Mynydd Gwefru
Yn anffodus bydd Mynydd Gwefru yn cau ar diwedd Dydd Gwener 27fed o Medi 2019 er mwyn ailgychwyn gyda gwaith adnewyddu. Rydym yn gobeithio ail agor yn ystod 2020.
Ropeworks Active
Ropeworks Active is set in beautiful woodland in Llanberis, with breath-taking views of lakes and mountains, Ropeworks Active is a memorable experience for families, groups or individuals.