Rheilffordd Talyllyn
Ewch ar stêm drwy ddyffryn hyfryd y Fathew ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mwynhewch arfordir gwych, coetiroedd hynafol, mynyddoedd cwymp dŵr a thraphont.

Rheilffordd Talyllyn
Ymlaciwch a mwynhewch olygfeydd anhygoel de Eryri, a chamwch yn ôl mewn amser i fwynhau’r gylchdaith 14.5 o filltiroedd ar drên a fu’n rhedeg ar yr un llwybr ers 1865. AMSERLENNI
Fel rheilffordd stêm wedi’i chadw gyntaf y byd, mae’n holl wybodus am greu teithiau arbennig: bydd hyd yn oed taith fer ar y Tal-y-llyn yn eich helpu i ymlacio. Cymaint felly fel y byddwch am ail-adrodd y daith.
Mae Rheilffordd Tal-y-llyn yn cychwyn o Dywyn ar arfordir Canolbarth Cymru, hanner ffordd rhwng y Bermo ac Aberystwyth ar ffordd yr A493. Mae’r rheilffordd lein gul a agorwyd ym 1865 yn cael ei phweru gan locomotifau stêm, ac fe’i hadeiladwyd i gario llechi o’r chwareli’r bryniau. Caeodd y chwareli yn 1946 ond parhaodd y trên cludo teithwyr.
Ym 1951 fe’i prynwyd gan Gymdeithas Gwarchod Rheilffordd Tal-y-llyn, y gyntaf o’i bath yn y byd, ac aelodau gwirfoddol y gymdeithas ynghyd â gweithlu bychan, llawn amser ymroddedig sy’n rhedeg y rheilffordd heddiw.
Defnyddir dau locomotif stêm Fictorianaidd gwreiddiol a phedwar cerbyd i deithwyr yn rheolaidd o hyd, ynghyd ag eraill sydd wedi’u hadeiladu neu eu cael dros y blynyddoedd. Mae’r trên Fictorianaidd gwreiddiol a agorodd y lein yn rhedeg ar ddyddiau Iau dewisol, ac mae’r daith hon yn cynnwys tywysydd teithiau personol.
Ceir gorsafoedd yng Nglanfa Tywyn (yn cysylltu â Lein Arfordir y Cambrian), Pendre, Rhydyronen, Brynglas, Rhaeadrau Dol-goch, Abergynolwyn a Nant Gwernol.
Mae lluniaeth ar gael yn Abergynolwyn, ac mae yna gaffi trwyddedig yng ngorsaf y Lanfa, siop sy’n gyforiog o anrhegion ac Amgueddfa’r Rheilffordd lein Gul (mynediad am ddim i’r safle).




Wharf Station
Tywyn
Gwynedd
LL36 9EY
Dod o Hyd i Ni
Ar drên
Y brif lein reilffordd agosaf yw Tywyn ar lein Arfordir y Cambrian. Trafnidiaeth Cymru sy’n ei gweithredu.
Ar fws
Mae’r bysiau canlynol yn mynd i Dywyn:
28: Dolgellau - Fairbourne - Llwyngwril -Tywyn - Aberdyfi - Machynlleth
x29: Tywyn - Aberdyfi - Machynlleth
29: gwasanaeth lleol Tywyn
30: Dolgellau/Machynlleth - Tal-y-llyn - Abergynolwyn - Tywyn
Mewn Car
Mae Tywyn, sef gorsaf derminws rheilffordd Tal-y-llyn ar arfordir Bae Ceredigion, rhwng Aberdyfi a’r Bermo, tua 30 milltir o’r gogledd o dref prifysgol Aberystwyth.
Parcio
Mae maes parcio ar gael dros y bont uwchben y brif lein reilffordd.
(Sylwch mai Cyngor Gwynedd sy’n gweithredu’r maes parcio hwn a’r gost yw £1.00 am 4 awr - darnau punt yn unig. Mae costau eraill yn berthnasol i fysiau).
Rhagor o drenau bach gwych
Stay
10% off with our Discount Card
*available at selected accommodation

Cross Foxes Bar and Grill, Rooms
Cross Foxes Bar and Grill, Rooms, Brithdir, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2SG 01341 421001
A 5 Star award winning Bar, Grill and Rooms in a Grade 11 listed building. Nestled at the foot of Cadair Idris Mountain and 13 miles from village of Llanuwchllyn.

Merton Villa
Situated in Tywyn the guest house in conveniently located just a short walk away from many of the local attractions and the blue flag awarded beach.

Hendy Farm
Enjoy Bed and Breakfast on a working farm with its own halt on the Talyllyn Railway. Or book one of the five beautiful 5 star graded cottages. Sleeps from 2 to 6.
Nearby

King Arthur’s Labyrinth
Situated at Corris Craft Centre, Machynlleth, a Dark Age Boatman guides you through immense caverns telling ancient Welsh stories.

St Cadfan’s Church
This church in Tywyn contains St Cadfan's Stone dating from the eighth or ninth century and inscribed with the oldest known written Welsh.

Castell y Bere
At the foot of Cader Idris in the Dysynni Valley, Castell y Bere is a fine example of Wales’s native castles.