Rheilffordd Treftadaeth Eryri
Rheilffordd fechan yw Rheilffordd Treftadaeth Eryri sy’n cynnig rhywbeth at ddant pobl o bob oed, ym mhob tywydd, beth bynnag fo’u diddordeb.

Rheilffordd Treftadaeth Eryri
Mae’r trenau’n cael eu gweithredu gan locomotifau stêm hanesyddol neu drenau diesel ddoe a chanddynt gerbydau traddodiadol pren. Y nod yw ail greu naws hen Reilffordd Eryri yn y 1920au. AMSERLENNI
Taith fer o Borthmadog i Ben y Mount yw’r daith ar y trên a gwahoddir teithwyr ifanc i helpu’r giard i weithredu’r pwyntiau a’r signalau, tra bod y locomotif yn teithio o gwmpas y trên. Ar y daith yn ôl, mae’r trên yn aros yn Fferm Gelert lle gwahoddir teithwyr i fynd ar y rheilffordd miniatur ac i ymweld â’r amgueddfa sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r rheilffordd ym Mhorthmadog, ar ochr arall y ffordd i orsaf rheilffordd y brif lein a chroesfan, gyferbyn â Gwesty’r Queens. Ceir maes parcio am ddim yno.
Mwynhewch brofiad gwerth chweil:
• Dringwch at y plât metel ar lawr caban trên stêm locomotif go iawn
• Eisteddwch yng nghaban siynt ddiesel bychan a gweithredwch y rheolyddion
• Dringwch i gaban un o locomotifau diesel lled cul fwyaf erioed i’w adeiladu
• Rhowch gynnig ar ein gêm siyntio
• Profwch y trên sy’n dianc!
Dysgwch am hanes Porthmadog a’i fasnach mewn llechi, llongau ac adeiladu llongau, am y rheilffyrdd lled gul a’r fasnach ategol oedd yn gwasanaethu’r diwydiannau hyn.
Dysgwch am y personoliaethau sy’n gyfrifol am ei ddatblygiad.
Dysgwch am y rheilffyrdd cynnar ym Mhorthmadog, cyn dyddiau locomotifau stêm.
Dysgwch rywbeth am stori gymhleth Rheilffordd Eryri a’i ragflaenwyr.
Dysgwch am y defnydd ehangach o reilffyrdd lled cul ledled y byd.
Edrychwch ar y casgliad o locomotifau a cherbydau sy’n cynnwys sawl arteffact pwysig o’r Rheilffordd Eryri gwreiddiol ym 1922. Bydd criw'r trên yn falch i ateb pob cwestiwn sydd gennych!
Ymhen tua hanner awr, bydd y trên yn dychwelyd i Borthmadog. Os hoffech ail-fyw’r profiad, mae tocynnau’n ddilys drwy’r dydd. Manteisiwch ar damaid o fwyd a diod yn Ystafell De Russell a phorwch yn siop y swfenîrs, y llyfrau a’r modelau.




Tremadog Road
Porthmadog
LL49 9DY
Dod o Hyd i Ni
Ar drên
Caiff gorsaf reilffordd prif lein Porthmadog ei gwasanaethu gan drenau o Firmingham, yr Amwythig, Machynlleth, y Bermo a Phwllheli ar hyd Lein Arfordir y Cambrian. Ceir golygfeydd gwych oddi arni.
Ar fws
Mae’r arosfannau bws agosaf yn agos i orsaf y brif lein reilffordd, ac mae bysiau lleol Sherpa’r Wyddfa a bysiau TrawsCymru, hefyd yn cysylltu â Chaernarfon, Blaenau Ffestiniog, Beddgelert, Bangor ac Aberystwyth.
Mewn Car
Rydym ar yr A4871, offer Llywio â Lloeren LL49 9HT.
O Gaernarfon, Beddgelert neu rywle yn y gogledd, anelwch am Borthmadog. Wrth i chi gyrraedd y dref, mae’r rheilffordd yn union ar y chwith cyn y groesfan reilffordd. Os ydych yn mynd heibio Tesco, rydych wedi mynd yn rhy bell.
O Griccieth, Pwllheli, Traeth Morfa Bychan a Pharc Gwyliau Greenacres, trowch i’r chwith i’r Stryd Fawr, heibio Tesco, ac mae’r rheilffordd ar y dde, heibio’r groesfan reilffordd.
O Ddolgellau a’r de, dilynwch yr A487 ar hyd ffordd osgoi Porthmadog tuag at Bwllheli, yna ewch ar y ffordd osgoi at y cylchdro cyntaf. Trowch i’r chwith tuag at ganol tref Porthmadog ac mae’r rheilffordd yn union ar y chwith cyn y groesfan reilffordd.
Parcio
Mae yna faes parcio am ddim i gwsmeriaid, ond gall brysuro. Mae yna faes parcio talu ac arddangos cyfnod hir yr ochr arall i’r ffordd.
Rhagor o drenau bach gwych
Stay
Discounts off stays with our Discount Card
*available at selected accommodation

Royal Sportsman Hotel
The hotel is renowned for its welcoming atmosphere and knowledgeable staff. A 3-star, full-service accommodation with great quality and good value food.

Tudor Lodge
A warm welcome awaits you at the Tudor Lodge, Porthmadog, family-run with cosy and comfortable rooms. Well known for their Scandinavian Style breakfast or a cooked breakfast option.

Awelon Holiday Cottage
A Grade 2 listed holiday cottage located in the historic square of Tremadog, enjoying pubs, restaurants and shops on your doorstep. Sleeps 10.
Nearby

Portmeirion Village
Portmeirion, (reached from Minffordd station) is home to two hotels, a cluster of historic cottages, iconic architecture, restaurants, an Italian ice cream parlour, exotic gardens and sandy beaches.

Borth y Gest
The closest beach to Porthmadog is at the sleepy, seaside village of Borth y Gest. A walk round the bay takes you to a clifftop path to small, beautiful sandy coves.

Glaslyn Osprey Project
Visit the Osprey viewing centre at Pont Croesor to see these amazing birds in the Welsh habitat and learn a little from the Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife volunteers.