Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion
Taith ddwyffordd 16 milltir drwy gefn gwlad hyfryd Canolbarth Cymru ar drên stêm lein gul, ffordd wych o wylio’r byd yn mynd heibio.

Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion
Fe’i hagorwyd ym 1903 er mwyn cysylltu tref farchnad y Trallwng â chymuned wledig Llanfair Caereinion. Bellach mae’r rheilffordd gul sydd ond 2 troedfedd 6 modfedd o led, a’i drên stêm yn darparu gwasanaeth twristiaeth i bawb yn y teulu a chwa o awyr iach o brysurdeb bywyd bob dydd. AMSERLENNI
Stêm sy’n tynnu y rhan fwyaf o’r trenau, un ai gan un o’r locomotifau gwreiddiol neu un o dramor. Hefyd, mae’r cerbydau’n arbennig; daw’r rheini a ddefnyddir yn rheolaidd o wledydd Hwngari ac Awstria gyda mynediad at y seddi caeedig drwy falconi agored - ffordd hyfryd o wylio’r byd yn mynd heibio.
Mae’r rheilffordd yn rhedeg rhwng y Trallwng a Llanfair Caereinion. Mae’r daith 8 milltir i Lanfair Caereinion yn cymryd 45 munud felly does neb ar ruthr! Dyma’r ffordd yr oedd eich hen gyndeidiau yn teithio, ac ail-grewyd hyn ichi ei fwynhau heddiw.
Dewisodd adeiladwyr gwreiddiol y rheilffordd sy’n cysylltu ffermwyr lleol gyda thref farchnad y Trallwng, led o 2 droedfedd 6 modfedd. Mae hyn yn caniatáu cromliniau tyn a graddiannau serth fel y gall y rheilffordd deithio ar draws tirlun tonnog y rhan brydferth hon o ganolbarth Cymru.
Efallai y gwelwch chi grëyr glas, hwyaden ddanheddog, cnocell y coed neu foncath. Mae’r trên yn rhedeg drwy ystâd Powis lle gellir gweld ffesantod a cheirw ac amrywiaeth eang o flodau gwyllt. Mae’r lein yn dilyn dyffryn afon, yn cordeddu o gwmpas melin ac yn llifo drwy ganol ffermydd.
Oedwch am fwyd a diod oer neu boeth, brechdanau, cawl neu ddetholiad o gacennau cartref a hufen iâ yn Ystafell De Llanfair Caereinion. Mae’r ystafell de ar agor i bawb pan fo’r trenau’n rhedeg, ac ar ddiwrnodau eraill dewisol yn ystod yr haf. Hefyd, mae’r siop anrhegion yn Sgwâr y Gigfran, y Trallwng yn gwerthu diodydd poeth ac oer.
Ceir siopau anrhegion llawn cynnyrch yng ngorsafoedd y Trallwng a Llanfair Caereinion, sy’n gwerthu anrhegion, llyfrau ar reilffyrdd a DVDs i bobl o bob oed.




The Station
Llanfair Caereinion
Welshpool
Powys
SY21 0SF
Dod o Hyd i Ni
Ar drên
Mae gorsaf Sgwâr y Gigfran y Trallwng tua milltir o orsaf y brif lein (yr Amwythig - Machynlleth - Aberystwyth/Pwllheli). Dylai teithwyr sy’n cyrraedd ar y trên fynd ymlaen tuag at ganol y dref ac yn syth ymlaen ar y groesfan. Tu hwnt i’r fan hon mae’r ffordd yn dechrau dringo, cyn esgyn yn y pen draw yn ôl i gylchdro Sgwâr y Gigfran.
Ar fws
O’r Amwythig, mae bws yr X75 yn aros wrth y Swyddfa Bost yn y Trallwng ac mae gorsaf Sgwâr y Gigfran yn daith gerdded 15 munud.
Mewn Car
Mae’r ddwy brif orsaf yn gyfagos a phriffordd yr A458.
Mae gorsaf Sgwâr y Gigfran y Trallwng (Cod Post Sgwâr y Gigfran yw SY21 7LT) ar ochr orllewinol y dref (dilynwch yr arwyddion brown neu A458 Machynlleth/Dolgellau).
Mae gorsaf Llanfair Caereinion (Cod Post SY21 0SF) ar ochr ddwyreiniol y dref. O’r dwyrain (pen y Trallwng) ar yr A458, mae’r orsaf ar y llaw chwith yn fuan ar ôl yr arwydd cyflymder 30mya. O’r gorllewin, ewch yn eich blaen ar hyd yr A458 a dilynwch yr arwyddion brown.
Parcio
Ceir meysydd parcio yn Sgwâr y Gigfran y Trallwng a’r terminws yn Llanfair Caereinion. Nid oes yr un cyfleuster parcio yn y gorsafoedd canolradd.
Rhagor o drenau bach gwych
Stay
Discounts off stays with our Card
*available at selected accommodation

Eithinog Hall
This Georgian house B&B in set in the rolling hills of Mid Wales offers three luxurious suites, sleeps up to six, Cyfronydd near Llanfair Caereinion.

Oaklands Glamping
The Heartwood treehouse is handcrafted to create the perfect hideaway for couples and there are also two luxury safari tents, Llangyniew, Welshpool.

Royal Oak Hotel
In the centre of the historic market town of Welshpool this celebrated coaching inn offers a friendly and luxurious stay.
Nearby

Welshpool market
Welshpool market is in the heart of the town held beneath the clock tower. The indoor Market is based open Monday to Saturday with additional stalls outside on a Monday.

Montgomery Canal
Running for 33 miles from Welsh Frankton in Shropshire to Newtown in Powys. The canal brings wildlife right into the centre of Welshpool.

Powis Castle
A medieval castle rising dramatically above world famous gardens with Italianate terraces and one of the finest collections of paintings and furniture in Wales.